Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Tachwedd 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(0 munud)
Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
(5 munud)
(5 munud)
NDM7192 Jayne Bryant (Newport West)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod swydd Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wag.
2. Yn penodi Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:
a) bydd y penodiad yn dod i rym ar unwaith;
b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad;
c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol;
d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.
Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009
(5 munud)
NDM7184 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2019.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
(5 munud)
NDM7185 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63 – Cwestiynau Llafar y Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2019.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12.63, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
(5 munud)
NDM7186 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
a) archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy'n cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig i): lywodraeth leol; tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol;
b) arfer y swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol Sefydlog 18A.2 mewn perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
(5 munud)
NDM7187 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
a) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b) o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Cynulliad mewn perthynas â'r defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys ymgymryd â gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru;
c) o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
d) o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
e) bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;
f) gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Cynulliad.
(30 munud)
NDM7182 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2020-21”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2019 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
(30 munud)
NDM7183 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Troi canolbarth Cymru yn fferm wynt fwya'r byd.
(180 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2019.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau
162, 127, 2, 128, 44, 147, 148, 149A, 149B, 149C, 149D, 149, 45, 150, 46, 151, 47, 152, 153A, 153B, 153C, 153, 48, 154A, 154B, 154C, 154, 49, 50, 51, 52, 155, 156, 53, 54, 81A, 81B, 81, 16, 129, 69A, 20, 55, 157, 56, 158, 57, 159, 21, 130, 22, 23, 131, 24, 26, 132, 59, 60, 58, 73A, 27, 133, 28, 134, 29, 135, 30, 136, 32, 137, 33, 138, 34, 139, 35, 140, 36, 141, 37, 142, 38, 143, 39, 144, 41, 145, 42, 146, 164A, 164B, 64, 161
2. Estyn yr hawl i bersonau 16 a 17 oed bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig
102, 3, 4, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117, 118, 119, 86, 120, 121, 122, 123, 124, 43, 125, 126, 101, 100
3. Adolygu gweithrediad y Ddeddf
160, 6, 40, 164, 165, 163
4. Estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig
5, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 17, 18, 19, 61, 62, 63, 1
5. Gweinyddu etholiadau
66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 87, 82, 97, 83, 84
6. Anghymhwyso
88, 25, 89, 90, 91, 92, 98, 99, 73, 31, 74, 75, 76, 93, 94, 65
7. Darpariaethau amrywiol a chyffredinol, gan gynnwys dod i rym
77, 95, 78, 79, 96, 80, 85
Dogfennau
Ategol
Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi'u didoli
Grwpio Gwelliannau
Llythyr gan y Llywydd Ynghylch y Memorandwm Esboniadol
Diwygiedig
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019